Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob can: 40 (12 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5
Yardarm Lager
English | Cymraeg
Ein barn ar Yardarm Lager.
Sgôr:
4/5
Hen atgof yw’r amser pan oedd cwrw di-alcohol yn cael ei becynnu fel pe bai cwsmeriaid yn gorfod bodloni arno sut olwg bynnag oedd arno. Mae’r cwrw melyn yma o’r Alban yn un o’r to newydd o ddiodydd prin-eu-halcohol sy’n anelu at dynnu sylw trwy ddiwyg trawiadol a dylunio da – yn yr achos yma, ar thema baneri llongau.
Fel nifer o’r diodydd buon ni’n eu blasu a’u hadolygu, cwrw gyda hanes difyr yw hwn. Roedd Sonja Mitchell yn dwli ar gwrw heb ddwli ar gur pen bore trannoeth. Felly, rhoddodd hi’r ffidl yn y to o ran ei hen swydd a chychwyn ar ei liwt ei hun i greu gwrw dirwestol.
Y cwrw yma yw’r canlyniadau: cwrw euraidd boddhaol iawn, gydag arogl sitrws dymunol a mymryn o hopys ond dim gormod. Lager yw e, ond gyda mwy o gymeriad o dipyn na’r rhan fwyaf o gwrw melyn masnachol. Mae ganddo hefyd ddigon o swmp – dyw e ddim yn denau o gwbl, sydd wastad yn berygl ar 0.5%.
Yn ogystal â bod yn gwrw melyn, mae hefyd yn eithaf gwyrdd. Daw mewn caniau ysgafn, hawdd eu hailgylchu, ac mae’r grawn sydd ar ôl ar ddiwedd y bragu yn mynd at ffermwr i fwydo ei wartheg.
Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.