Zest Zero Lemon

English | Cymraeg

Ein barn ar Zest Zero Lemon

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob potelaid: 86 (26 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Yn yr un modd â Zest Zero Grapefruit, cawson ni hon yn annisgwyl yn Aldi.

Roedd ein panel profi yn anghydweld yn ei chylch. Roedd pawb yn cytuno ei bod hi’n tywallt yn dda a bod golwg gymylog neis arni hi. Ond ar wahân i hynny, doedd gan neb yr un farn ar ddim. Yn nhyb rhai, diod ffrwythaidd flasus oedd hi – fel siandi da ond heb fod yn rhy felys. Yn ôl rhai eraill, roedd hi’n rhy felys o dipyn (Lemon Tango oedd un gymhariaeth) ac mewn potel fel alcopop.

Felly, bydd rhai i chi benderfynu drosoch eich hunan. Does dim dweud a fydd hi ar gael yn Aldi os ewch chi i chwilio amdani, ond mae’n sicr o ailymddangos yno rywbryd yn y dyfodol.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​