Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob 100ml: 27
Dyma ddewis amgen penigamp ar gyfer dathlu, cymdeithasu neu giniawa. Diod gynnil a chytbwys yw hon, ond un sy’n cynnig blasau unigryw. Mae yma jasmin blodeuog, gellyg cras, a thamaid o fêl, gan gloi gyda brathiad tannin.
Dyma ddiod wirioneddol soffistigedig a chain i lenwi’ch gwydryn ar achlysur arbennig neu ginio cofiadwy. Mae’r botel wedi’i phecynnu’n hyfryd mewn bocs hardd, a gallai fod yn anrheg ddi-alcohol dda. Mae blasau eraill ar gael, sef Hojicha, Darjeeling, ac Osmanthus. Rhowch gynnig arnyn nhw i gyd!