Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob 100ml: 16
Wedi’i sefydlu yn 1849, mae Bragdy Hook Norton i’w gael o hyd mewn adeilad hardd o oes Victoria ym mryniau’r Cotswolds. Mae e hefyd yn un o gwta ddau gwmni bragu ym Mhrydain sy’n dal i ddosbarthu rhywfaint o’u cwrw â cheffylau gwedd.
Maen nhw’n adnabyddus am gwrw traddodiadol llawn blasau diddorol, a dyna’n union yw Old Hooky Zero. Os cwrw hen-ffasiwn yw eich peth chi, a chithau’n awyddus i yfed llai o alcohol, dyma’r ddiod i chi. Mae ganddo liw castan hyfryd, arogl brag braf, a chymysgedd cymhleth o flasau sy’n cydbwyso hopys a brag yn berffaith.