FREE Damm

English | Cymraeg

Ein barn ar FREE Damm

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob can: 66 (20 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Mae bragdy Damm yn enwog trwy’r byd am Estrella – un o gyrfau mwyaf adnabyddus Sbaen, ac un o allforion mwyaf nodedig Catalwnia. Os nad yw ‘Damm’ yn swnio’n arbennig o Sbaenaidd (na Chatalanaidd chwaith), mae yna reswm dros hynny. Yn 1867, gadawodd August Kuentzmann Damm ei gartref yn Alsace er mwyn dianc rhag y rhyfel rhwng Ffrainc a Phrwsia. Ymfudodd i Barcelona, dechrau creu cwrw, ac mae’r busnes yn dal i ffynnu.

Yn ogystal ag Estrella, mae bragdy Damm yn gwneud llond trol o gyrfau eraill, ond dyw’r rhan fwyaf ddim yn ymddangos yn y wlad yma yn aml iawn. Un sydd wedi dod i’r fei’n diweddar, yn adran ddi-alcohol Morrison’s, yw FREE Damm. Lager Canoldirol 0.0% yw hwn, mewn caniau o liw glas metalaidd trawiadol. Buodd ein panel profi yn ei brofi.

Beth amdano, felly? Wel, dyw e ddim yn ddrwg o gwbl. Dywedwn ni fod e yn yr un dosbarth â chyrfau fel Bavaria 0.0%. Mae’r blas yn ysgafn a glân. Mae ganddo holl hanfodion lager derbynniol. Ond, fel Bavaria, dyw e ddim yn arbennig o gyffrous. Os ydych chi’n chwilio am gwrw canol-y-ffordd i dorri syched, cerwch am hwn. Os ydych chi’n teimlo fymryn yn fwy anturus, awgrymwn ni i chi chwilota trwy’r llu o gyrfau eraill rydym ni wedi eu blasu a’u hadolygu fan hyn.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​