Marks and Spencer Low Alcohol Czech Lager

English | Cymraeg

Ein barn ar Marks and Spencer Low Alcohol Czech Lager

Sgôr:

2/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: Wrthi’n aros gwybodaeth
Sgôr: 2 o 5

Fel lager Tsiecaidd prin-ei-alcohol Sainsbury’s, un o ffrwythau bragdy Staropramen yw hwn gan Marks and Spencer. Gwaetha’r modd, er bod diwyg pert y botel yn ddrych o liwiau coch, gwyrdd ac aur Staropramen, does prin ddim byd arall yn gyffredin rhyngddyn nhw.

A bod yn deg, does ganddo ddim o adflas afiach rhai cyrfau di-alcohol, ond dyw e ddim yn eithriadol iawn o ran ei nodweddion eraill. Er ei fod o’r un stabl ag un Sainsbury’s, rhywsut, diod fwy tenau yw hon a dyw ei blas ddim yn para’n hir yn y geg. Basen ni wedi gobeithio am rywbeth gwell gan y bragwyr sy’n ein hannog i “flasu pleser Prâg”.

Mae cwrw di-alcohol Staropramen o dan eu henw eu hunain wedi ennill gwobrau yng Ngweriniaeth y Tsieciaid. Anodd credu mai’r un cwrw yw hwn.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​