Bunta Beer
English | Cymraeg
Cwrw sydd wedi’i greu ar gyfer cyrri.
Sgôr:
5/5
Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 18
Dyma gwrw sydd wedi’i greu ar gyfer cyrri. Cwrw di-alcohol yw Bunta sy’n gwneud y gorau o flasau mawr bwydydd Indiaidd. Dyma ddiod sy’n cyd-fynd i’r dim gyda prydau sbeislyd, gan ddathlu defodau cymdeithasu, cwmnïaeth, coginio a chyd-fwyta.
Mae cydbwysedd hyfryd rhwng blas y brag a sioncrwydd cynnil blas sitrws. Mae nodyn rhost hefyd sy’n dod o’r coriander, gan roi dyfnder i’r ddiod heb ei gwneud yn rhy drwm.
Cwmni sydd wedi’i sefydlu gan ferched yw Bunta, ac yn ogystal â darparu diod o safon, maen nhw hefyd yn ystyried lles y blaned trwy droi llawer o’u gwastraff bragu yn frethyn. Dyma un o’r brandiau di-alcohol mwyaf arloesol gawson ni hyd yma.
Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.