BrewDog Hazy AF

English | Cymraeg

Ein barn ar BrewDog Hazy AF.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob can: 46 (14 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Does byth wybod beth fydd cam nesaf BrewDog! Wedi ennill enwogrwydd â chwrw cryfaf erioed Prydain, maen nhw wedi cofleidio’r cyfle i fragu’n ddi-alcohol gyda sêl anghyffredin. Maen nhw wedi agor tafarn ddi-alcohol yn Llundain, ac wedi lansio’r cwrw gwelw yma.

Fel basech chi’n ei ddisgwyl o’r enw, cwrw cymylog yw hwn. Mae’n llawn hopys ond mae blas sitrws dymunol iawn yn rhoi cytbwysedd iddo. I ffyddloniaid y cwrw crefft sydd am yfed ychydig yn fwy cymedrol, fe wnaiff hwn y tro i’r dim.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​