Tiny Rebel Space Cake Non Alc

English | Cymraeg

Ein barn ar Tiny Rebel Space Cake Non Alc.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob potelaid: 66 (20 ymhob 100ml)

Sgôr: 4 o 5

Fel nifer o gyrfau Tiny Rebel, mae’r cwrw du yma yn gymysgedd mawr cymhleth o flasau. Yn gyntaf oll mae arogl coffi, ac wedyn siocled tywyll, a’r rheini’n gymysg â hopys a brag. Mae’n tywallt yn dda gyda digon o ewyn. Efallai ei fod e fymryn bach yn denau, ond mae’n cymharu’n ffafriol â sawl cwrw sydd wyth neu ddeng gwaith y cryfder.

Un peth doedden ni ddim hollol gyffyrddus amdano oedd yr enw. Mae cynhyrchwyr cwrw yn weddol gytûn nad yw cysylltu diodydd alcoholaidd â chyffuriau anghyfreithlon yn syniad arbennig o dda. Os yw hynny’n wir am gwrw arferol, onid ddylen ni ddweud yr un peth am gwrw dirwestol fel hwn?

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​