Gwin Gwyn Pefriog Be Free

English | Cymraeg

Ein barn ar Gwin Gwyn Pefriog Be Free

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob gwydraid 250ml: 73 (29 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Mae’n anodd peidio â hoffi diwyg a golwg y ddiod yma. Mae’r botel foliog glir gyda llun bach annwyl o feic modur hynafol yn un o’r cwliaf welson ni hyd yn hyn – mwy fel cwrw crefftus na gwin di-alcohol.

Tu fewn i’r botel, cewch chi win pefriog ysgafn o fro hyfryd Ddyffryn Mosel. Wedi’i dywallt, mae ganddo ddigon o swigod. Efallai bydd e fymryn yn rhy felys i rai, ond at ei gilydd, mae’n ddiod hafaidd bleserus.

Mae gwin gwyn Be Free ar werth yn Asda.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​