Marks and Spencer Sauvignon Blanc

English | Cymraeg

Ein barn ar Marks and Spencer Sauvignon Blanc.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob gwydryn 250ml: 56 (22 per 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Fel y coch a’r rosé sy’n eistedd yn ei ymyl ar silffoedd di-alcohol trymlwythog Marks and Spencer, gwin Almaenaidd yw’r Sauvignon Blanc yma, cynnyrch Reh Kendermann – y bobl roddodd Black Tower i’r byd.

Mae iddo liw Sauvignon Blanc da. Mae’n ffrwythaidd ac ysgafn heb fod yn rhy felys – diod ddelfrydol i’r haf. Mae Marks and Spencer yn awgrymu ei yfed gyda bwydydd Asiaidd, ymhlith pethau eraill, a dwedodd rhai o’n panel profi ei fod yn cyd-fynd yn arbennig o dda â chinio Tsieineaidd. Fasech chi ddim yn ei gamgymryd am win gwyn o gryfder arferol, ond, yn sicr, mae’n ddiod werth ei thrio.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​