Rawson’s Retreat Semillon Chardonnay

English | Cymraeg

Ein barn ar Rawson’s Retreat Semillon Chardonnay

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob gwydryn 250ml: 30 (90 ymhob potel)
Sgôr: 5 o 5

Ymhlith y gwinoedd gwyn di-alcohol, mae hwn o Awstralia yn sefyll ar ei ben ei hun. Mae ganddo liw melynaidd Semillon Chardonnay wedi’i aeddfedu mewn casgenni derw. Mae’n gwynto fel Chardonnay, ac mae’n rhagori ar nifer o’r gwinoedd ar y tudalen yma trwy beidio â bod yn annifyr o felys. Efallai mai dyna pam mai dim ond 12 o galorïau sydd ymhob 100ml. Does dim llawer o ddiodydd llai calorïog na hynny, ar wahân i ddŵr, efallai.

Mae ychydig o adflas sur, ond ar y cyfan, os ydych chi’n hoff o win gwyn ond am gadw draw o’r ddiod gadarn am dipyn, dyma’r ddiod i chi.

Fel pob un o winoedd Rawson’s Retreat, mae hwn yn cael ei gyflwyno’n dda mewn potel sy’n gwneud iddo edrych fel gwin o safon, gyda braslun bach annwyl o hen fwthyn y winllan, gyda’i do sinc, gafodd ei godi gan sylfaenydd y cwmni yn 1845.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​