Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob can: 73 (22 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5
Friels Low Alcohol Original Cider
English | Cymraeg
Ein barn ar Friels Low Alcohol Original Cider
Dyma adolygiad gan ein hawdur gwâdd @GlowSober
Cwmni teuluol annibynnol yw Friels, gan gynaeafu afalau lleol o siroedd Henffordd a Chaerwrangon. Mae’r afalau wedyn yn cael eu gwasgu ger glannau Afon Hafren yn Stourport ac mae Friels yn ymfalchïo nad oes dim blasau, lliwiau na melysyddion artiffisial yn eu diodydd.
Mae gan y seidr yma arogl gwych – mae’n afalau i gyd – ac o’r gegaid gyntaf mae blas seidr digamsyniol. Mae hefyd ddigon o swigod ynddo. Wrth iddo deithio drwy’ch ceg mae fel pe bai’n colli rhywfaint o’r blas sydd mor addawol ar y dechrau. Ond wrth i chi ei lyncu, mae’n adennill tir ac mae’r blas seidr yn dychwelyd. Mae’n fwy sych na melys ac mae’r adflas yn aros ar y tafod.
Prynwch eich diodydd diod alcohol a phrin-eu-halcohol nawr!
Pan brynwch chi ddiodydd gan Drydrinker a Wise Bartender gan ddefnyddio’r dolenni hyn, bydd Alcohol Change UK yn cael cyfran o’r elw, gan helpu ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.