Rekorderlig Premium Strawberry-Lime

English | Cymraeg

Ein barn ar Rekorderlig Premium Strawberry-Lime

Sgôr:

2/5

Cryfder: 0.2%
Calorïau ymhob can: 114 (38 ymhob 100ml)
Sgôr: 2 o 5

Fel Kopparberg, cwmni seidr cymharol newydd o Sweden yw Rekorderlig. Sefydlwyd y bragdy yn 1996 yn Vimmerby yn ne’r wlad, tref sydd hefyd yn enwog fel bro mebyd y llenor Astrid Lindgren, creawdwr yr hogan benchwiban Pippy Longstocking. Yn debyg iawn i Pippy, mae Rekordelig yn ymfalchïo eu bod nhw’n arbennig o Swedaidd ac yn “wahanol braf”. Felly, ydy hwn yn seidr i’ch synnu?

Wedi ei flasu, doeddwn i ddim yn hollol siŵr beth i’w feddwl amdano. Diod wahanol iawn yw hi i seidr mefus a leim 4% Rekorderlig. Diod siarp, bron yn sur yw honno. Mae hon, ar y llaw arall, yn eithaf melys, gan atgoffa rhai o un o ffefrynnau eu plentyndod.

Os ydych chi’n hoff o seidrau melys, efallai y byddwch chi’n ei mwynhau. Ond os Rekorderlig Mefus a Leimarferol yw eich dewis ddiod, mae’n bosibl y bydd hon yn eich siomi. Tybed oes blwch yn y farchnad am seidr di-alcohol mwy sur fydd at ddant oedolion? Ac os oes, ydy’n fwlch dylai Rekordelig geisio ei lenwi?

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​