Karma Sucra Mockapolitan

English | Cymraeg

Ein barn ar Mocktails Karma Sucra Mockapolitan .

Sgôr:

4/5

Coctels Swyddogol Ionawr Sych 2022

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob potelaid: 80 (40 per 100ml)
Sgôr: 4/5

Mae cwmni Mocktails o sir Derby wedi defnyddio perlysiau a sbeisiau o bedwar ban byd er mwyn ail-greu’r Cosmopolitan – y coctel a ddaeth i sylw’r byd yn anad dim trwy’r gyfres deledu Sex and the City.

Ym marn ein panel profi, mae ganddi arogl dymunol o geirios y wern, gydag awgrym o leim a pherlysiau. Diod ychydig yn felys yw hi ond mae’r leim yn torri drwodd yn dda fel mewn Cosmopolitan dda. Does dim lliw na blasau artiffisial, na dim cemegion i’w chadw’n ffres, ac mae’n addas i feganiaid.

Gallwch chi brynu eich Mocktails yma, ac os defnyddiwch chi’r ddolen yma cewch chi ddisgownt o 20% hyd at 1 Chwefror 2022

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​