Seedlip Grove 42 parod

English | Cymraeg

Ein barn ar Seedlip Grove 42.

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob can: 53 (21 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Mae Seedlip yn un o lwyddiannau mawr y byd gwirodydd di-alcohol, ac mae eu poteli cofiadwy i’w gweld tu ôl i’r bar mewn tafarndai (a chlybiau iechyd hyd yn oed) led-led y wlad. I’r sawl sy’n chwennych Seedlip ar symud, mae’r caniau bach handi yma. Bachon ni gwpl yn Sainsbury’s.

Daw’r Grove 42 yma gyda thonic lemonwellt mewn can trwsiadus gyda lliwiau cynnil a gwiwer fach annwyl. Mae ganddo arogl orenau neis, ond, yn anffodus, roedd yn blas yn eithaf gwan yn ein barn ni, a’r adflas yn eithaf asidig. Er hynny, nid ni sydd biau’r gair olaf ar bob diod, ac fel pob tro, rhaid i ni eich annog i roi cynnig arni a phenderfynu drosoch eich hun.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​