Tesco Low Alcohol G&T

English | Cymraeg

Ein barn ar Tesco Low Alcohol G&T

Sgôr:

5/5

Cryfder:lla na 0.5%
Calorïau ymhob can: 60 (24 ymhob 100ml); a 12 ymhob can (5 ymhob 100ml) yn yn fersiwn llai ei galorïau
Sgôr: 5 o 5

Wrth i’r farchnad jin fynd o nerth i nerth, mae mwy yn mentro gweld i ba raddau gellir ail-greu blasau cymhleth hoff wirod y wlad heb yr alcohol. Mae’r ddiod newydd yma gan Tesco yn dod yn eithaf agos at daro’r nod.

Wrth graffu ar y cynhwysion, mae ganddo holl hanfodion jin da – meryw (wrth gwrs) , a hefyd crwyn sitrws a llysiau’r angel. Mae dau fath o’r ddiod i’w cael, un (mewn can arian) yn llawer llai ei galorïau na’r llall (mewn can gwyrdd).

Trown ni at y can gwyrdd i gychwyn. Wrth agor y can, mae’n gwynto’n syth fel jin-a-thonic. Mae’n ysgafn, adfywiol a heb fod yn rhyw felys. At ei gilydd, mae hwn yn GnT eithaf da, er nad cystal â’r Teetotal GnT o sir Efrog.

Doedd y ddiod lai ei galorïau ddim yn plesio i’r un graddau, gwaetha’r modd. Roedd llai o swigod, llai o flasau jin (sef ei bod hi’n fwy fel yfed tonic ar ei ben ei hunan), ac am ryw reswm, roedd hi i’w gweld yn fwy melys hefyd. Oni bai eich bod chi o ddifrif am leihau eich calorïau, mynd am y can gwyrdd yw ein cyngor ni i chi.

Mae diwyg y ddau gan yn ddeniadol, gyda lluniau o’r tri llysieuyn sy’n rhoi i’r ddiod ei blas, gan roi’r neges mai diod o safon yw hon yn gyntaf oll, cyn bod yn ddiod ddi-alcohol. Byddai mwy o ddylunio meddylgar o’r fath ar boteli a chaniau’r prif archfarchnadoedd eraill, yn sicr, yn helpu gwneud diodydd di-alcohol yn gynnyrch sy’n denu cwsmeriaid, yn lle bod yn rhywbeth i bobl fodloni arno yn niffyg dim gwell.

Mae Tesco hefyd yn addo bod y ddwy ddiod yn addas i figaniaid.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​