Nodwch: Cafodd yr adroddiad hwn ei ariannu neu’i ysgrifennu gennym o dan ein henw blaenorol Alcohol Concern.
English | Cymraeg
29 Tachwedd 2010
Crynodeb gweithredol
Mae alcohol yn cael ei gynhyrchu a’i yfed yng Nghymru ers tua 4,000 o flynyddoedd, ac wedi chwarae rhan fawr ym mywyd cymdeithasol, economaidd a diwylliannol y wlad.
Mae yfed, ac yfed yn drwm yn achlysurol, wedi dod yn arferion normal yng Nghymru, yn arbennig ers twf diwydiannol yr 18fed a’r 19eg ganrif, gan beri i un hanesydd ddisgrifio alcohol fel “gwir opiwm y Cymry”. Mae’r diwydiant diodydd wedi bod yn barod erioed i fanteisio ar yr awch hwn am alcohol, gyda chynigion tair-diod-am-bris-un ar gael mor gynnar ag 1836.
Esgorodd y diwylliant yfed hwn i raddau ar wrthddiwylliant ar ffurf mudiad dirwest Cymru a’r ymgyrch i gau tafarndai Cymru ar y Sul. Fodd bynnag, er i’r mudiadau hyn honni mai gwarchod gwerthoedd Cymreig yr oeddynt, aflwyddiannus ac amhoblogaidd oeddynt yng Nghymru ar y cyfan.
Mae’r defnydd o alcohol wedi cynyddu’n sylweddol yng Nghymru yn ystod y degawdau diwethaf, a llawer o bobl yn yfed mwy o lawer na’r canllawiau. Mae goryfed i’w weld ar ffurf sesiynau meddwi yng nghanol trefi a dinasoedd Cymru, a hefyd tuedd i yfed mwy gartref. O ran yr ail o’r rhain, gellir priodoli lefelau uchel o yfed gartref yn rhannol i bolisi’r archfarchnadoedd o gynnig gostyngiadau mawr ar ddiodydd alcoholig, gyda’r disgownt yn aml yn ddibynnol ar brynu mwy nag un eitem. Mae brwdfrydedd am alcohol hefyd yn mynd law yn llaw â sêl y Cymry am chwaraeon, gyda bragwyr mawr yn ceisio Cymreigio eu brand drwy eu cysylltu eu hunain â thimau a digwyddiadau.
At hynny, mae gan Gymru un o’r problemau mwyaf difrifol o ran pobl ifanc o dan yr oedran cyfreithlon yn yfed alcohol, gyda 54 y cant o fechgyn 15 oed yng Nghymru a 52 y cant o ferched o’r un oedran yn honni eu bod wedi meddwi o leiaf ddwywaith.
At ei gilydd, mae’n weddol eglur bod diwylliant o oryfed alcohol wedi datblygu ac yn parhau i ddatblygu yng Nghymru, a bod yfed er mwyn meddwi yn dod yn fwyfwy cyffredin a derbyniol. Cafodd hyn ei gadarnhau i raddau gan ymatebion i’n cyfweliadau wyneb yn wyneb ag yfwyr mewn tref yng Nghymru yn ystod haf 2010. Gwelwyd bod brwdfrydedd mawr am “sesiwn dda”, gydag yfed yn drwm yn aml yn rhan hanfodol o noson allan dda, a phobl yn rhoi’r gorau i yfed dim ond pan na allent yfed rhagor. I rai, roedd meddwi’n rheolaidd yn dderbyniol, ac yn rhywbeth i edrych ymlaen ato hyd yn oed, er bod meddwdod yn aml yn arwain at ddigwyddiadau yr oedd pobl yn eu difaru wedyn.
Prin iawn oedd yr ymwybyddiaeth am unedau o alcohol ymysg y rhai a gafodd eu cyfweld, gyda nifer o bobl yn nodi eu bod yn mesur eu terfynau o ran yfed alcohol yn ôl pa mor sâl neu allan o reolaeth yr oeddent yn teimlo: “pan fydd yr ystafell yn dechrau troi”, “pan fydd rhaid rhoi fi mewn tacsi”. Roedd pris yn ffactor mawr arall a oedd yn cyfyngu ar yfed pobl, gyda rhai’n dweud eu bod yn yfed yn ôl faint o alcohol y gallent ei fforddio.
Er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa hon, a’r ffaith bod camddefnyddio alcohol yn dod yn fwyfwy arferol, mae Alcohol Concern yn gwneud yr argymhellion canlynol. Annog newid mewn arferion yfed ac yn y diwylliant yfed yng Nghymru yw ein nod, gan symud tuag at sefyllfa lle y ceir perthynas iachach ag alcohol yng Nghymru.