Nodwch: Cafodd yr adroddiad hwn ei ariannu neu’i ysgrifennu gennym o dan ein henw blaenorol Alcohol Concern.
English | Cymraeg
6 Ionawr 2014
Cyflwyniad
Mae alcohol yn gallu effeithio’n andwyol ar gynhyrchiant, diogelwch, iechyd a morâl yn y gweithle. Gydag unrhyw faint o alcohol yn eu cyrff, gall staff fod yn llai effeithlon ac yn llai diogel. Yn benodol, pan fydd gweithwyr yn ymgymryd â gorchwylion sy’n gofyn iddynt fod yn effro iawn er mwyn cadw’n ddiogel, gall effaith alcohol ‘bore trannoeth’ fod yn niweidiol iawn.
Mae’r papur hwn yn ymchwilio i broblem alcohol a’r gweithle, gan ystyried y gwahanol bethau y gall cyflogwyr eu gwneud i ymyrryd, gan dynnu sylw’n arbennig at yr angen i fusnesau yng Nghymru fabwysiadu polisi alcohol effeithiol a fydd yn helpu creu gweithle diogel, iach a chynhyrchiol.