Nodwch: Cafodd yr adroddiad hwn ei ariannu neu’i ysgrifennu gennym o dan ein henw blaenorol Alcohol Concern.
English | Cymraeg
11 Tachwedd 2013
Crynodeb gweithredol
Mae gennym ddealltwriaeth dda am beryglon gyrru o dan ddylanwad alcohol. Mae alcohol yn creu amryw effeithiau amlwg ar yr ymennydd a’r corff dynol, gan gynnwys arafu a gwaethygu sut y byddwn ni’n ymateb a symud. Gall pob un o’r effeithiau hyn gynyddu peryglon anafiadau a marwolaeth ar yr heol. Gan gydnabod y peryglon hyn, gosodwyd amryw derfynau alcohol yn y gwaed ar gyfer gyrru ledled y byd. Yma ym Mhrydain mae un o’r terfynau uchaf yn y byd, sef 80mg o alcohol ymhob 100ml o waed. Yn 2010, argymhellodd Adolygiad North y dylid gostwng ein terfyn alcohol yn y gwaed i 50mg, yn unol â’r rhan fwyaf o weddill Ewrop. Gwelir gostyngiad o’r fath cyn bo hir yn yr Alban, ond nid yng ngweddill y Deyrnas Unedig.
Eithaf gwael o hyd yw dealltwriaeth llawer ohonom am y terfynau cyfreithlon ar gyfer alcohol yn y corff wrth gyrru, ac mae llawer o yrwyr yn mesur faint o alcohol y gallant ei yfed yn ddiogel drwy gyfrif faint diodydd a gawsant – dull na ellir dibynnu arno o gwbl. Er hynny, ac yn bur galonogol, mae mwy hanner gyrwyr Cymru’n dweud na fyddent byth yn cael alcohol cyn gyrru. Yn ôl pob golwg hefyd, prin yw’r dystiolaeth yng Nghymru i ategu’r gred bod yfed o dan ddylanwad alcohol yn fwy derbyniol yng nghefn gwlad.
Yn ddiau, mae cyflwyno profion anadl wrth ymyl y ffordd ers 1967 – ynghyd â chosbau difrifol am yrru o dan ddylanwad alcohol – wedi effeithio’n sylweddol er lleihau yfed a gyrru ym Mhrydain. Er hynny, erys pryderon bod rhai gyrwyr yn parhau i yfed cyn gyrru, gan gredu ei bod yn annhebygol y cânt eu dal. Mae uwch swyddogion yr heddlu hefyd wedi mynegi pryder nad oes ganddynt gymaint o bwerau i archwilio a yw gyrwyr yn gymwys i yrru ag sydd ganddynt i archwilio a yw cerbydau yn gymwys i fod ar yr heol. Ochr yn ochr â hyn, mae amcangyfrifon diweddar gan yr Adran Drafnidiaeth yn awgrymu bod nifer y bobl a gaiff eu lladd mewn damweiniau yfed a gyrru wedi cynyddu tua 25% rhwng 2011 a 2012, ar ôl sawl blwyddyn pan oedd y ffigurau ar i lawr, gan gyfrif am 17% o’r holl farwolaethau a gofnodwyd ar yr heolydd yn 2012.
Er bod y rhan fwyaf o’r sylw, yn gwbl briodol, wedi bod ar yr unigolyn sy’n penderfynu gyrru neu beidio â gyrru o dan ddylanwad alcohol, codwyd cwestiynau am rôl bosibl y rheini sy’n gwerthu alcohol wrth leihau niwed yn sgîl yfed alcohol ar ein heolydd. Bu ymgyrchoedd ymwybyddiaeth am yfed a gyrru yn effeithiol, yn enwedig pan gawsant eu hategu gan drefniadau cadarn ar gyfer gweithredu’r deddfau perthnasol, ond erys cwestiynau mawr am rôl cwmnïau alcohol wrth hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd.
Mae cred gyffredin, wedi’i chefnogi i raddau gan y diwydiant diodydd, mai carfan eithriadol y tu hwnt ffiniau’r gymdeithas o ddiotwyr normal yw “gyrwyr meddw”. Yn groes i hyn, mae Alcohol Concern am ddadlau bod angen i ni, fel cymdeithas o yfwr, gychwyn trafodaeth agored a gonest am faint rydym yn ei yfed, pryd a pham, a sut y mae hyn yn effeithio ar ein bywydau.
Er mwyn gostwng yfed a gyrru, ac er mwyn hyrwyddo amgylchedd di-alcohol i yrwyr, mae Alcohol Concern yn argymell y canlynol:
Argymhelliad 1
Fel yr argymhellwyd gan Adolygiad North, ac yn unol â’r arfer cyffredin yn y rhan fwyaf o’r Undeb Ewropeaidd, dylid gostwng y terfyn alcohol yn y gwaed ar gyfer Cymru a Lloegr o 80mg i 50mg ymhob 100ml o waed. Os nad yw Llywodraeth Prydain am fynd â’r maen i’r wal, dylid datganoli’r pwerau angenrheidiol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn cyd-fynd ag unrhyw newid i’r terfyn alcohol yn y gwaed, bydd angen cyhoeddusrwydd cenedlaethol yn egluro’r newid a’i oblygiadau.
Argymhelliad 2
Ar ba bynnag lefel y gosodir y terfyn alcohol yn y gwaed, dylai pob neges sy’n ymwneud ag yfed a gyrru bwysleisio’r ffaith y bydd hyd yn oed symiau bach o alcohol yn y gwaed yn effeithio ar allu gyrrwr i reoli cerbyd, ac egluro mai osgoi alcohol yn llwyr cyn gyrru yw’r dewis mwyaf diogel. Dylid pwysleisio hefyd peryglon gyrru bore trannoeth yfed, a’r cosbau cyfreithiol posibl am yrru uwchben y terfyn.
Argymhelliad 3
O gofio’r gwrthdaro amlwg rhwng angen masnachol y diwydiant diodydd i hyrwyddo gwerthu eu cynhyrchion alcoholig yn benodol ac i hyrwyddo diota’n gyffredinol, a’r nod o hyrwyddo yfed yn gymedrol ac ymwrthod ag alcohol pan fo’n briodol, ni ddylai fod gan y diwydiant alcohol unrhyw ran wrth lunio addysg a gwybodaeth am yfed synhwyrol a’u cyflwyno, gan gynnwys ymgyrchoedd yn erbyn yfed a gyrru.
Argymhelliad 4
Er mwyn cryfhau cred gyrwyr eu bod yn debygol gael eu harestio wrth yfed o dan ddylanwad alcohol, dylid rhoi pwerau i’r heddlu yng Nghymru a Lloegr stopio gyrwyr a’u profi am alcohol ar unrhyw adeg, hyd yn oed pan nad oes tystiolaeth o drosedd benodol – “profion anadl ar hap”, chwedl rhai. Fel y nodwyd yn Adolygiad North, “nid yw ond yn synhwyrol ac yn briodol i’r heddlu ddefnyddio’r pw ^ er estynedig hwn mewn ffordd sydd wedi’i thargedu ac wedi’i seilio ar wybodaeth”.
Argymhelliad 5
O ystyried peryglon amlwg gwneud alcohol ar gael i’w yfed gan fodurwyr sy’n debygol o fod yn teithio ar y terfyn cyflymder cenedlaethol neu’n gyflymach, dylai’r gwaharddiad sydd ar hyn o bryd ar werthu alcohol mewn gorsafoedd gwasanaethau traffyrdd aros yn ei le.
Argymhelliad 6
Dylid cynnal gwaith ymchwil gynhwysfawr weld pa mor berthnasol ac addas i’r wlad hon yw:
- Deddfau “cynwysyddion agored”, gan edrych yn benodol ar gofnodion yr heddlu am bresenoldeb a phwysigrwydd cynhwysyddion diodydd alcoholig agored mewn cerbydau a fu mewn gwrthdrawiad
- Cloeon injan, yn enwedig ar gyfer cerbydau gwasanaeth cyhoeddus a cherbydau masnachol