Cymysgedd afiach? Nawdd y diwydiant diodydd i ddigwyddiadau diwylliannol a chwaraeon

English | Cymraeg

17 Ionawr 2011

Llwythwch i lawr pdf

Bachwch yr adroddiad (4.45Mb)

Nodwch: Cafodd yr adroddiad hwn ei ariannu neu’i ysgrifennu gennym o dan ein henw blaenorol Alcohol Concern.

Crynodeb gweithredol

Arfer cyffredin ydyw i’r diwydiant alcohol noddi digwyddiadau diwylliannol a chwaraeon yng Nghymru, ac mae trafodaeth yn parhau rhwng y diwydiant a grwpiau iechyd cyhoeddus am ba mor briodol yw cysylltu digwyddiadau o’r fath â hyrwyddo alcohol.

Fel hysbysebu a ffurfiau eraill ar farchnata, mae noddi yn rhoi llwyfan i gwmnïau alcohol gysylltu eu cynhyrchion yn ein meddyliau â phrofiadau positif. Mae mwy a mwy o dystiolaeth erbyn hyn yn awgrymu y gall marchnata alcohol ddylanwadu ar faint rydym yn ei yfed, ac ar ein bwriadau o ran yfed a’n syniadau ni am beth yw ymddygiad yfed arferol.

At hynny mae digwyddiadau chwaraeon fel gemau pêl-droed a rygbi, a digwyddiadau diwylliannol fel gwyliau cerddorol yn aml yn apelio’n fawr at bobl ifanc. Mae noddi’r digwyddiadau hyn yn helpu cwmnïau alcohol i gyfleu’r neges bod yfed alcohol yn beth normal, ac yn wir yn angenrheidiol, er mwyn mwynhau’r fath ddigwyddiadau’n llawn. Mae hyn destun pryder arbennig o ystyried bod pobl ifanc yn agored iawn i effeithiau negyddol alcohol.

Canfu astudiaeth grw ^ p ffocws Alcohol Concern Cymru, a gynhaliwyd yng Ngholeg Menai ym Mangor ym mis Hydref 2010, fod cryn ymwybyddiaeth gan bobl ifanc am nawdd gan gwmnïau alcohol; ond eu bod yn aml yn ddi-hid ynghylch moeseg y fath nawdd, a’u bod wedi arfer ag ef gymaint nes iddynt ei weld yn rhan arferol o fyd diwylliant a chwaraeon. Roedd hyn yn arbennig o wir am nawdd y diwydiant diodydd i chwaraeon.

Mae Alcohol Concern yn credu bod noddi, a dulliau hyrwyddo a marchnata alcohol eraill, yn normaleiddio defnyddio sylwedd niweidiol, ac yn gwneud iddo ymddangos yn fwy deniadol. Credwn fod angen tynhau’r rheolau ar frys er mwyn mynd i’r afael ag yfed niweidiol cynyddol yng Nghymru.

Er bod gwaharddiad llwyr ar bob ffurf ar farchnata a hysbysebu alcohol i’w weld yn ateb amlwg er mwyn diogelu plant a phobl ifanc, nid oes digon o dystiolaeth i gefnogi hynny ar hyn o bryd. Er hynny, mae’r rheoliadau sydd yn neddfwriaeth y Loi Évin yn Ffrainc yn enghraifft o ddulliau cadarn y gellid eu mabwysiadu yng Nghymru a gweddill Prydain.