Cyfri’r Gost Hyrwyddo alcohol yn anghyfrifol yn economi’r nos yng Nghymru

English | Cymraeg

25 Ionawr 2010

Llwythwch i lawr pdf

Bachwch yr adroddiad (0.55Mb)

Nodwch: Cafodd yr adroddiad hwn ei ariannu neu’i ysgrifennu gennym o dan ein henw blaenorol Alcohol Concern.

Crynodeb gweithredol

Mae ymgyrchoedd hyrwyddo alcohol anghyfrifol mewn tafarnau, barrau a chlybiau yn cyfrannu at orddefnydd o alcohol ymhlith y cyhoedd, gan arwain at droseddu ac anhrefn sy’n gysylltiedig ag alcohol, a chanlyniadau iechyd andwyol. Maent yn meithrin diwylliant yfed anniogel ac mae angen cymryd camau dewr yn awr i leihau yfed niweidiol ac osgoi marwolaethau y gellir eu hatal.

Mae Alcohol Concern wedi bod yn ymchwilio i ba mor gyffredin yw ymgyrchoedd hyrwyddo alcohol yn economi’r nos yng Nghymru. Comisiynwyd arolwg ciplun mewn tri lleoliad yng Nghymru - sef Casnewydd, Abertawe a Wrecsam - gan arolygu cyfanswm o 43 o safleoedd trwyddedig un nos Wener ym mis Tachwedd 2009. Casglwyd data ar natur a graddau’r cyfryw ymgyrchoedd hyrwyddo, prisiau’r diodydd alcoholig a di-alcohol rhataf, ac unrhyw negeseuon hybu iechyd/yfed synhwyrol a oedd yn cael eu harddangos ym mhob safle.

Canfu ein harolwg fod tua hanner y safleoedd yn cynnal rhyw fath o ymgyrch hyrwyddo diodydd alcohol. Mae Alcohol Concern o’r farn bod nifer o’r ymgyrchoedd hyn, megis cynnig tair diod am bris un a chodi un tâl penodedig sy’n golygu bod pob diod ar ôl hynny am ddim yn arbennig o anghyfrifol. Mae’r cynigion hyn yn annog pobl i yfed llawer o alcohol mewn cyfnod byr o amser, ac maent yn cynnig cymhelliant ariannol i yfed mwy nag a fwriadwyd. Ar ben hynny, cafwyd bod prisiau diodydd unigol yn ddigon isel i beri pryder mewn llawer o achosion: roedd pedwar safle o leiaf yn cynnig peintiau am gyn lleied â £1, roedd hyn mewn rhai achosion yn llai na phris isaf y diodydd ysgafn a oedd ar gael; roedd 12 safle yn cynnig gwirodydd, weithiau mewn mesurau dwbl, am £1 yn unig. Am y prisiau hyn, gallai merch yfed mwy na dwywaith gymaint o alcohol â’r hyn a argymhellir bob dydd - sef y diffiniad arferol o bw ^ l o oryfed (binge) - am £3 yn unig, a gallai dyn wneud yr un peth am gyn lleied â £4.