Nodwch: Cafodd yr adroddiad hwn ei ariannu neu’i ysgrifennu gennym o dan ein henw blaenorol Alcohol Concern.
English | Cymraeg
21 Chwefror 2012
Crynodeb gweithredol
Mae camddefnyddio alcohol yn dal i fod yn her fawr yng Nghymru, a llawer ohonom yn yfed mwy na’r canllawiau yn rheolaidd. Gwelwn ganlyniadau’r goryfed hwn yn y niferoedd mawr sy’n dioddef salwch sy’n gysylltiedig ag alcohol, yn mynd i mewn i’r ysbyty neu’n marw oherwydd alcohol.
Mae amrywiaeth eang o wasanaethau alcohol yng Nghymru, sy’n rhoi cefnogaeth a chymorth gwerthfawr i yfwyr unigol a’u teuluoedd, ac i’r gymuned ehangach. Mae’r gwasanaethau hyn yn chwarae rôl hanfodol o ran ymdrin â chanlyniadau camddefnyddio alcohol o ddydd i ddydd, a’n helpu yn y tymor hirach i ddatblygu perthynas iachach ag alcohol. Mae ymchwil wedi dangos y gall gwasanaethau alcohol lleol ddod â manteision personol a chymdeithasol gwirioneddol, a manteision ariannol hirdymor drwy leihau’r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus eraill sy’n deillio o broblemau alcohol.
Nid yw’n rhyfedd, o ystyried y rhagolygon ar gyfer gwariant cyhoeddus, fod gwasanaethau alcohol yng Nghymru yn pryderu’n fawr ynghylch eu dyfodol ariannol eu hunain. Dwyseir y pryderon gan y galw mawr parhaus am wasanaethau trin alcohol. Er ein bod yn cydnabod y cyfyngiadau sydd ar hyn o bryd ar wariant cyhoeddus, mae Alcohol Concern yn dadlau bod manteision uniongyrchol a hirdymor gwasanaethau alcohol i unigolion, y gymdeithas a chyllid gyhoeddus yn cyfiawnhau eu cefnogi a’u datblygu, a buddsoddi ynddynt.
Er gwaethaf gwerth amlwg gwasanaethau alcohol, mae stigma ac embaras o hyd o gwmpas cydnabod problem alcohol yn gyhoeddus a cheisio cymorth ar ei chyfer, yn rhannol oherwydd y gred gyffredin bod yfwyr problemus rywsut yn wahanol i’r rhelyw o yfwyr normal. Cred yw hon a atgyfnerthir gan honiad y diwydiant diodydd bod alcohol yn gynnyrch niwtral nad yw’n achosi problemau ond yn nwylo defnyddwyr anghyfrifol.
Er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn, mae Alcohol Concern yn argymell y canlynol:
Argymhelliad 1
Dylai gwariant ar wasanaethau alcohol barhau’n flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Dylai adroddiadau swyddogol ar wireddu Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau Cymru ddangos yn glir faint o arian sy’n cael ei neilltuo i atal a thrin camddefnyddio alcohol, a sut mae gwariant ar wasanaethau alcohol lleol yn cyd-fynd ag amcanion cenedlaethol.
Argymhelliad 2
Dylid ymestyn a datblygu rôl Byrddau Cynllunio Ardal Camddefnyddio Sylweddau yng Nghymru er mwyn sicrhau y darperir gwasanaethau yn fwy cyson ledled Cymru a bod comisiynu gwasanaethau lleol yn cyfrannu at gyflawni blaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer atal camddefnyddio alcohol a’i drin.
Argymhelliad 3
Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau y cofnodir yn gywir faint o bobl yng Nghymru sy’n ddibynnol ar alcohol, a phennu targedau ar gyfer faint sy’n cael triniaeth bob blwyddyn, gan anelu at gynyddu faint o yfwyr dibynnol sy’n defnyddio gwasanaethau, a sicrhau bod adnoddau digonol ar gael ar gyfer hyn.
Argymhelliad 4
Mae angen i ladmeryddion iechyd cyhoeddus barhau i herio’r syniad bod alcohol yn gynnyrch niwtral, gan bwysleisio, er ei fod yn rhan gyfarwydd o fywydau cymdeithasol y rhan fwyaf ohonom, ei fod hefyd yn sylwedd gwenwynig a chaethiwus a chanddo nifer o beryglon cynhenid.