Niwed cudd? Alcohol a phobl hy ^n yng Nghymru

English | Cymraeg

24 Mai 2011

Llwythwch i lawr pdf

Bachwch y papur briffio (0.34Mb)

Nodwch: Cafodd yr adroddiad hwn ei ariannu neu’i ysgrifennu gennym o dan ein henw blaenorol Alcohol Concern.

Cyflwyniad

Ar hyn o bryd, mae tua 18% o boblogaeth Cymru yn 65 oed neu’n hy ^n, sef tua 548,000 o bobl. Yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf yng Nghymru mae’r cyfanswm o bobl sydd dros 60 mlwydd oed wedi cynyddu 30%, ac yn ôl amcanestyniadau diweddar bydd 185,000 (29%) yn fwy o bensiynwyr yng Nghymru yn 2033 nag oedd yn 2008, hyd yn oed wrth ystyried y newidiadau arfaethedig yn yr oedran ymddeol swyddogol. Mae’r twf hwn yn y boblogaeth sydd wedi ymddeol yng Nghymru yn bennaf o ganlyniad i’r cynnydd mewn hyd oes cyfartalog, ac mae’n cynnig nifer o bosibiliadau cadarnhaol. Yn ogystal mae’n cynnig heriau arwyddocaol o ran sicrhau ein bod yn mwynhau iechyd da yn ystod ein blynyddoedd olaf.