Nodwch: Cafodd yr adroddiad hwn ei ariannu neu’i ysgrifennu gennym o dan ein henw blaenorol Alcohol Concern.
English | Cymraeg
17 Mai 2010
Cyflwyniad
Yng Nghymru a Lloegr, mae bron i 20,000 o fenywod yr wythnos yn profi o leiaf un achos o gam-drin domestig. Mae ymchwil yn dangos bod adroddiadau am gam-drin domestig yn gallu cynyddu yn ystod cyfnodau pan fydd digwyddiadau chwaraeon mawr yn cael eu cynnal, efallai gymaint â 40%. Does dim tystiolaeth o gyswllt achosol uniongyrchol rhwng cam-drin domestig ac yfed alcohol – mae’r rhai sy’n cam-drin yn defnyddio trais gydag alcohol a hebddo. Er hynny, mae’n hysbys bod yfed yn cynyddu amlder a difrifoldeb yr achosion.
Disgwylir y bydd cynnydd enfawr yn yr alcohol a gaiff ei yfed yng Nghymru a gweddill y DU yn ystod Cwpan pêl-droed y Byd eleni. Mae’r bragwr Carlsberg, noddwr swyddogol tîm pêl-droed Lloegr, yn disgwyl i 21 miliwn o beintiau ychwanegol gael eu hyfed yn ystod y gystadleuaeth bedair wythnos.
Mae’r papur hwn yn archwilio sut mae yfed alcohol ac adroddiadau am gam-drin domestig yn cynyddu yn ystod digwyddiadau chwaraeon. Mae’n gwneud argymhellion o ran codi ymwybyddiaeth a pharhau i weithredu er mwyn mynd i’r afael â’r mater hwn. Y bwriad yw cynnig gwybodaeth i ddarparwyr gwasanaethau, y rhai sy’n llunio polisïau ac aelodau o’r cyhoedd sy’n ymddiddori yn y maes.