Negeseuon cymysg: Alcohol a diodydd egni

English | Cymraeg

20 Mehefin 2011

Llwythwch i lawr pdf

Bachwch y papur briffio (0.24Mb)

Nodwch: Cafodd yr adroddiad hwn ei ariannu neu’i ysgrifennu gennym o dan ein henw blaenorol Alcohol Concern.

Cyflwyniad

Mae gwerthiant diodydd egni uchel eu caffein wedi cynyddu’n sylweddol ym Mhrydain yn ystod y blynyddoedd diweddar, ac mae’r diodydd hyn yn arbennig o boblogaidd ymhlith pobl ifanc. Ar y cyd â hyn, datblygodd tuedd i gyfuno diodydd egni ag alcohol, naill ai ar ffurf diodydd alcoholig parod neu drwy gymysgu diodydd egni di-alcohol â gwirodydd. Cododd pryderon mawr am y peryglon posibl i iechyd wrth yfed llawer o gaffein ar yr un pryd ag alcohol.

Mae’r papur briffio hwn yn crynhoi’r dystiolaeth sydd ar gael hyd yma ac yn gwneud argymhellion ar gyfer gweithredu.