Cyfryngau newydd, problem newydd? Alcohol, pobl ifanc a’r rhyngrwyd

English | Cymraeg

19 Medi 2011

Llwythwch i lawr pdf

Bachwch yr adroddiad (1.31Mb)

Nodwch: Cafodd yr adroddiad hwn ei ariannu neu’i ysgrifennu gennym o dan ein henw blaenorol Alcohol Concern.

Crynodeb gweithredol

Mae gweithgarwch marchnata alcohol ar y rhyngrwyd yn cynyddu’n gyflym ac mae’r diwydiant alcohol yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau newydd a rhyngweithiol i gyrraedd cwsmeriaid presennol a newydd. Mae presenoldeb cwmnïau alcohol ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol megis Facebook a Twitter, a gwefannau rhannu fideos megis YouTube, yn destun pryder arbennig am fod nifer enfawr o blant a phobl ifanc yn defnyddio’r gwefannau hyn yn rheolaidd ac mae perygl felly iddynt weld deunyddiau marchnata ar gyfer oedolion.

Yn yr un modd, mae gwefannau brandiau alcohol yn aml yn cynnwys pethau megis gemau rhyngweithiol, cystadlaethau a fideos a all apelio i blant. Ac eto, mae systemau profi oedran sydd i fod i sicrhau mai dim ond oedolion sy’n ymweld â rhai gwefannau neu dudalennau gwe, yn aneffeithiol am mai’r cyfan y mae angen i rywun ei wneud yw rhoi dyddiad geni ffug.

Mae’r ffiniau rhwng marchnata swyddogol a chynnwys wedi’i greu’n answyddogol gan ddefnyddwyr hefyd yn dod yn fwyfwy aneglur. Mae gan lawer o gwmnïau alcohol dudalen swyddogol ar Facebook, er enghraifft, lle y gall defnyddwyr cofrestredig gyhoeddi sylwadau, yn aml o blaid brand penodol. Ond mae hefyd lawer mwy o dudalennau wedi’u creu gan ddefnyddwyr sy’n adlewyrchu’r tudalennau swyddogol hyn. Ar y rhain, mae aelodau sy’n postio eitemau i bob pwrpas yn gweithredu fel ‘cenhadon’ answyddogol dros y brand, boed hynny’n fwriadol ai peidio.

Mae gwefannau rhwydweithio cymdeithasol wedi dod yn lle i ddefnyddwyr o bob oedran drafod eu harferion yfed alcohol a rhannu lluniau yfed. Erbyn hyn mae’n gyffredin cofnodi partïon a nosweithiau allan ar y fath wefannau, gan gyhoeddi lluniau ac eitemau sy’n sôn yn ganmoliaethus am yfed yn drwm. Mae plant yn eu harddegau, yn arbennig, yn dweud yn agored eu bod yn gallu yfed llawer iawn o alcohol ac maent yn awyddus i gael eu hystyried yn ‘yfwyr’ gan eu cyfoedion. Mae hyn oll yn cyfrannu at ‘normaleiddio’ defnyddio alcohol, gan ddylanwadu ar ein syniadau am beth yw ymddygiad yfed derbyniol.

Mae’r adroddiad hwn yn ystyried rôl fwyfwy pwysig y rhyngrwyd fel ffordd i hyrwyddo defnyddio alcohol, ac yn gwneud yr argymhellion penodol canlynol:

Argymhelliad 1

Am eu bod mor ddeniadol i bobl ifanc, ni ddylid caniatáu marchnata alcohol yn swyddogol ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol.

Argymhelliad 2

Dylai cynhyrchwyr alcohol a gweinyddwyr gwefannau rhwydweithio cymdeithasol fynd ati i roi terfyn ar ddefnyddio nodau masnach, logos diodydd a delweddau hysbysebu ar wefannau o’r fath heb ganiatâd, gan y gellir eu camgymryd am farchnata swyddogol. Dylai gweinyddwyr gwefannau rhwydweithio cymdeithasol hefyd gyhoeddi canllawiau cliriach i ddefnyddwyr am bostio cynnwys a all gymeradwyo neu annog yfed anghyfrifol.

Argymhelliad 3

Mae tudalennau cadarnhau oedran yn aneffeithiol ar gyfer atal pobl ifanc rhag mynd i wefannau sy’n cynnwys deunydd sy’n ymwneud ag alcohol a fwriedir ar gyfer oedolion. Mae angen rhagor o ymchwil i ganfod gwell dulliau rheoli mynediad. Yn y cyfamser, ni ddylai gwefannau brandiau alcohol gynnwys dim ond gwybodaeth ffeithiol am gynhyrchion.

Argymhelliad 4

Mae angen i gyrff iechyd wrthwynebu marchnata alcohol swyddogol a negeseuon o blaid yfed ar y rhyngrwyd drwy groesawu a defnyddio’r cyfryngau newydd eu hunain er mwyn hyrwyddo negeseuon iachus am alcohol.