Nodwch: Cafodd yr adroddiad hwn ei ariannu neu’i ysgrifennu gennym o dan ein henw blaenorol Alcohol Concern.
English | Cymraeg
13 Rhagfyr 2010
Cyflwyniad
Mae camddefnyddio alcohol yng Nghymru yn destun pryder mawr yn gyhoeddus ac yn wleidyddol. Mae yfed yng Nghymru, fel yng ngweddill Prydain, wedi codi’n sylweddol ers y 1960au. Mae 52 y cant o ddynion Cymru a 38 y cant o fenywod yn dweud eu bod yn yfed mwy na’r canllawiau, ac mae’r ffigurau go iawn yn debygol o fod yn uwch fyth, gan fod arolygon yn aml yn tangyfrif faint o alcohol sy’n cael ei yfed. Mae canlyniadau hyn i’w gweld mewn amrywiaeth o broblemau iechyd, a hefyd mewn troseddu ac anhrefn mewn mannau cyhoeddus, gan gynnwys ar gludiant cyhoeddus. Mae o leiaf un cwmni trenau yng Nghymru wedi dweud bod y rhan fwyaf o’r ymosodiadau ar ei staff yn gysylltiedig ag alcohol.