Ar flaen y gad: Alcohol a’r lluoedd arfog

English | Cymraeg

23 Gorffennaf 2012

Llwythwch i lawr pdf

Bachwch y papur briffio (0.34Mb)

Nodwch: Cafodd yr adroddiad hwn ei ariannu neu’i ysgrifennu gennym o dan ein henw blaenorol Alcohol Concern.

Cyflwyniad

Mae llawer o sylwebwyr wedi nodi traddodiadau yfed lluoedd arfog Prydain, gan ramantu am arferion fel dogn ry´m dyddiol y Llynges Frenhinol, a ddaeth i ben yn 1970. Mor gynnar â 1850, gwelodd y Morlys fod alcohol yn arwain at broblemau disgyblaeth ymhlith morwyr, ac yn ystod y degawdau diwethaf mae’r lluoedd arfog i gyd wedi cymryd camddefnyddio alcohol yn llawer mwy difrifol fel mater disgyblu, iechyd a pherfformiad. Erys pryderon, er hynny, fod yfed trwm wedi’i wreiddio’n rhy ddwfn yn niwylliant y lluoedd arfog; nad yw’r lluoedd eu hunain yn gwneud digon i fynd i’r afael â hyn; a bod problemau camddefnyddio alcohol weithiau’n aros yn gudd gan ddod i’r amlwg pan fydd milwr, morwr neu awyrennwr wedi gadael y lluoedd arfog ac yn byw bywyd sifil.

Mae’r papur briffio hwn yn edrych ar y dystiolaeth sydd ar gael ynghylch yfed yn lluoedd arfog Prydain, beth sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â phroblemau sy’n ymwneud ag alcohol, a beth arall y gellid ei wneud.