Nodwch: Cafodd yr adroddiad hwn ei ariannu neu’i ysgrifennu gennym o dan ein henw blaenorol Alcohol Concern.
English | Cymraeg
4 Chwefror 2013
Crynodeb gweithredol
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn yfed alcohol neu’n gamblo rywbryd yn ystod eu hoes, ac yn dweud eu bod wedi gwneud hynny yn y flwyddyn flaenorol. Mae problemau gamblo a chamddefnyddio alcohol ill dau’n cael eu hystyried yn broblemau iechyd sylweddol sy’n gallu cael effaith andwyol ar gymdeithas.
Mae gan yfed alcohol a gamblo lawer o nodweddion cyffredin. Yn benodol, arweiniodd Deddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005 at lacio’r rheolau sy’n rheoleiddio alcohol a gamblo fel ei gilydd. Aeth y Ddeddf Trwyddedu ati i ddiddymu oriau trwyddedu cyfyng yng Nghymru a Lloegr a dileu hawl blaenorol awdurdodau i asesu ceisiadau trwyddedu ar sail ‘angen’; nododd y Ddeddf Gamblo na fyddai galw heb ei fodloni yn faen prawf i awdurdodau trwyddedu bellach, a chaniataodd i gasinos, bwcis a gwefannau betio hysbysebu eu gwasanaethau ar y teledu a’r radio yn y wlad hon am y tro cyntaf.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r stigma sy’n gysylltiedig â menywod yn yfed wedi pylu, ar yr un pryd â thoreth o farchnata sy’n targedu menywod, a thwf diwylliant yfed ymhlith menywod ifanc yn y 1990au. Mae’n bosibl bod gamblo, sy’n ddiwydiant sydd wedi’i ddominyddu hyd yn hyn gan ddynion, yn mynd trwy newid tebyg, gyda’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod mwy na hanner menywod Prydain yn cyfaddef eu bod wedi gamblo o leiaf unwaith (ac eithrio’r Loteri Genedlaethol) yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ynghyd â chynnydd amlwg marchnata gamblo sy’n targedu menywod.
Mae yna dystiolaeth gynyddol bod cysylltiad rhwng problemau gamblo ac yfed trwm. Er bod angen rhagor o ymchwil yn y maes hwn, mae’n ymddangos bod mynychder gamblo a phroblemau gamblo yn waeth ymhlith cleientiaid gwasanaethau camddefnyddio sylweddau. Mae ymchwil ddiweddar yn dangos cysylltiad rhwng gamblo patholegol a chaethiwed. Mae system ddosbarthu seiciatrig yr UDA (DSM-V) wrthi’n cael ei diweddaru, ac mae’n ystyried dosbarthu gamblo patholegol fel ‘Caethiwed’ yn hytrach nag o dan yr hen bennawd, sef ‘Anhwylderau Rheoli Ysgogiad’ (‘Impulse Control Disorders’).
Wrth i’r diwydiannau alcohol a gamblo ehangu, gan fuddsoddi mewn dulliau marchnata a thechnolegau mwy soffistigedig, mae’n debygol y bydd ‘normaleiddio’ yfed alcohol a gamblo’n parhau a, heb y cyfyngiadau angenrheidiol, mae yna berygl go iawn y bydd mwy a mwy o bobl yn mynd yn gaeth i alcohol a gamblo yn y dyfodol. Bu llawer o waith academaidd yngly ^n â chamddefnyddio alcohol, gan bwyso a mesur y ffyrdd mwyaf effeithiol i annog pobl i yfed llai o alcohol, a lleihau’r niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol. Gall llawer o’r dulliau hyn fod yn berthnasol i faes gamblo, gan gynnwys cyfyngu ar gyfleoedd i gamblo, cyfyngu ar farchnata, diogelu plant a phobl ifanc rhag niwed a sicrhau bod cymorth a thriniaeth ar gael i bawb sydd eu hangen.
Mae’r adroddiad hwn yn gwneud yr argymhellion canlynol:
Argymhelliad 1
Mae angen rhagor o ymchwil i effeithiau cyfyngu ar gyfleoedd i gamblo. Mae tystiolaeth o faes alcohol yn dangos sut y gall lleihau argaeledd reoli yfed a lleihau’r niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol. Mae’n debyg bod yr un peth yn wir ym maes gamblo. Rhaid rhoi sylw arbennig i ddatblygiadau technolegol, yn enwedig datblygiad gamblo trwy’r rhyngrwyd, teledu rhyngweithiol a ffonau symudol.
Argymhelliad 2
Rhaid diogelu plant a phobl ifanc yn well, gan eu bod yn arbennig o agored i niwed gan gynhyrchion sydd â’r potensial i fod yn gaethiwus. Dylid mabwysiadu argymhellion o faes alcohol, megis cyfyngu’n fwy effeithiol ar farchnata. Dylai’r Comisiwn Gamblo barhau i fonitro faint y mae plant yn gallu mynd i mewn i leoliadau gamblo, trwy gynlluniau profion prynu rheolaidd.
Argymhelliad 3
Dylai triniaeth a chymorth addas fod ar gael i bawb sydd â phroblem alcohol. Er bod llai o bobl yn dioddef problemau gamblo o gymharu ag alcohol, mae’n hollbwysig bod cyngor a thriniaeth briodol sydd wedi’u ariannu’n dda ar gael i’r rhai â phroblemau gamblo.
Argymhelliad 4
Dylai sgrinio am broblemau gamblo fod yn arfer cyson mewn gwasanaethau triniaeth am gamddefnyddio sylweddau. Mae angen mwy o ymchwil i asesu effeithiau integreiddio triniaethau i broblemau gamblo â thriniaethau i broblemau alcohol.
Argymhelliad 5
Mae angen codi ymwybyddiaeth am broblemau gamblo ymhlith ymarferwyr iechyd cyhoeddus, ac yn fwy eang, yng nghyddestun ehangach caethiwed a’i beryglon.
Argymhelliad 6
Mae angen creu cronfa ddata genedlaethol a fydd yn cwmpasu’r holl broblemau sy’n gysylltiedig â gamblo, a dylai hon gyfrannu at strategaethau cenedlaethol ar reoli caethiwed (gan gydnabod caethiwed ymddygiadol yn ogystal â chaethiwed cemegol). Bydd hyn yn helpu i godi ymwybyddiaeth am gamblo, a sicrhau ei fod yn cael sylw wrth gynllunio gwasanaethau lleol, a bod adnoddau ar gael i ddatrys y broblem gynyddol hon.
Argymhelliad 7
Mae angen mwy o ymchwil yng Nghymru a Lloegr i’r ffyrdd orau i ganfod problemau gamblo a thriniaethau newydd y gellir eu defnyddio i fynd i’r afael â nhw.
Argymhelliad 8
Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon sy’n gyfrifol am lunio polisi’r Llywodraeth ar gamblo yng Nghymru a Lloegr ar hyn o bryd. O ystyried goblygiadau difrifol problemau gamblo o ran iechyd cyhoeddus, dylid ystyried rhoi mwy o rôl i’r Adran Iechyd wrth lunio polisi ar gamblo.