Dan bwysau: cefnogi gofalwyr di-dâl yng Nghymru

English | Cymraeg

19 Tachwedd 2012

Llwythwch i lawr pdf

Bachwch y papur briffio (0.71Mb)

Nodwch: Cafodd yr adroddiad hwn ei ariannu neu’i ysgrifennu gennym o dan ein henw blaenorol Alcohol Concern.

Cyflwyniad

Mae gofalwyr di-dâl yn gwneud cyfraniad hanfodol i’n cymdeithas – amcangyfrifwyd mai £7.72 biliwn y flwyddyn yw gwerth economaidd eu gwaith i Gymru. Gall eu rôl fod yn un sy’n rhoi boddhad, gan ddyfnhau ac yn atgyfnerthu cydberthnasau drwy roi’r cymorth hanfodol sydd ei angen yn aml ar berthnasau, ffrindiau ac anwyliaid. Er hyn, rôl ydyw sy’n gofyn am lawer iawn.

Mae’r papur briffio hwn yn edrych ar waith gofalwyr di-dâl yng Nghymru, y pwysau sydd arnynt, a rhai o’r ffyrdd y maent yn ymdopi. Mae’n cyflwyno argymhellion ar gyfer sicrhau bod gofalwyr yn cael eu cefnogi’n well.