Nodwch: Cafodd yr adroddiad hwn ei ariannu neu’i ysgrifennu gennym o dan ein henw blaenorol Alcohol Concern.
English | Cymraeg
24 Mai 2010
Crynodeb gweithredol
Mae yfed mwy o alcohol na’r canllawiau a argymhellir yn rheolaidd yn cynyddu’r risg i iechyd hirdymor yn sylweddol. Mae astudiaethau’n dangos bod alcohol yn gysylltiedig â mwy na 60 o glefydau, gan gynnwys clefyd yr iau/afu a chanser y geg, y bibell fwyd, y coluddyn a’r fron. Mae’n gyfrifol am tua 1,000 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn.
Mae Alcohol Concern yn awyddus i ganfod lefelau ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd yng Nghymru am y risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio alcohol. Gwnaethom gomisiynu arolwg dros y ffôn o 1,000 o yfwyr yng Nghymru ym mis Chwefror 2010, gan ofyn cwestiynau ynghylch unedau a gwerth caloriffig diodydd, a’r canlyniadau iechyd sy’n deillio o oryfed.
Mae ein harolwg yn nodi bod llawer o bobl yng Nghymru nad ydynt yn ymwybodol o hyd o’r peryglon sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio alcohol nac unedau na gwerth caloriffig diodydd. Nododd tua hanner yr ymatebwyr nad oeddynt yn ymwybodol o’r nifer fwyaf o unedau y dylai dynion neu ferched eu hyfed bob dydd; ni allai dros hanner yr ymatebwyr nodi’n gywir nifer yr unedau mewn peint safonol o gwrw/lager na gwydraid safonol o win; ni allai dros 80% nodi’n gywir nifer y calorïau mewn peint safonol o gwrw/lager na gwydraid safonol o win; ac ni allai tua 78% nodi’r cysylltiad rhwng alcohol â chanser.
Yn ogystal â hynny, er gwaethaf twf sylweddol o ran faint y mae pobl yn ei yfed yng Nghymru dros y 50 o flynyddoedd diwethaf a nifer gynyddol y cleifion sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty ac sy’n marw o ganlyniad uniongyrchol i gamddefnyddio alcohol, nododd dros dri chwarter y bobl a ymatebodd i’n harolwg mai anaml y maent yn poeni am faint o alcohol y maent yn ei yfed, os o gwbl.
Mae’n amlwg bod angen gwneud mwy i roi gwybod i’r cyhoedd am unedau a gwerth caloriffig diodydd, y canllawiau yfed a argymhellir a’r risgiau i iechyd sy’n gysylltiedig â goryfed.