Adnams 0.5 Sauvignon Blanc

English | Cymraeg

Ein barn ar Adnams 0.5 Sauvignon Blanc.

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 31

Mae Adnams yn adnabyddus fel bragwyr cwrw, ond maen nhw hefyd yn cynnig detholiad o winoedd o dan eu brand eu hunain, er nad ydyn nhw’n eu cynhyrchu. Yn wir, mae’r Sauvignon Blanc yma yn hanu o Sbaen yn hytrach na Suffolk. Mae’n dod mewn potel drwsiadus, gyda label sy’n gwneud yn fawr o’i brinder alcohol – gyda “0.5” mewn rhifau breision. Mae’r gwin ei hunan yn felyn cymharol dywyll, mwy fel Chardonnay na Sauvignon Blanc. Mae ganddo wynt gwin dda, gydag awgrym o furum. Mae’r blas heb fod yn rhy felys, ac ychydig yn chwerw gydag awgrym o dderw (eto fel Chardonnay). Er ei fod yn bell o fod yn berffaith, mae’n ddiod adfywiol iawn a dymunol iawn.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​