Against the Current Rhubarb and Hibiscus Kombucha

English | Cymraeg

Ein barn ar Against the Current Rhubarb and Hibiscus Kombucha.

Sgôr:

5/5

Cryfder: llai na 0.5%

calorïau ymhob can: 15

Dyma adolygiad gan awdur gwadd, ein Rheolwyr Codi Arian ac Ymgysylltu, Adam Stokes

Yn ôl pobl Counter Culture ym Mryste, “does dim rhaid i brofiadau di-alcohol fod yn ddiflas”. Ac mae’r ddiod yma’n bell o fod yn ddiflas!

Cyn gynted ag y cewch chi eich llymaid cyntaf, gwyddoch chi fod taith wyllt o’ch blaen! Yn wir, mae’r siwrnai’n cychwyn cyn i’r ddiod gyrraedd eich ceg. Mae aroglau’r rhiwbob a’r hibisgws yn hyfryd iawn, gan godi o’r can yn fuan ar ôl i chi dynnu’r cylch i’w agor.

Mae’r cydbwysedd yn berffaith. Mae ambell kombucha yn rhy felys, ac er bod mymryn o felystra yn y ddiod yma, dyw e ddim yn llethol. Os ydych chi’n chwilio am rywbeth blasus ac adfywiol, dyma’r ddiod i chi!

Mae diwyg y can yn eithaf cŵl a ffynci hefyd – tipyn o gampwaith gan yr arlunydd – ac mae’r lliwiau’n gweddu i’r dim i’r ddiod.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​