Counter Culture TXT In A Bottle

English | Cymraeg

Ein barn ar Counter Culture TXT In A Bottle

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0%

Calorïau ymhob 100ml: 17

Dyma adolygiad gan awdur gwadd, ein Rheolwr Codi Arian ac Ymgysylltu, Sven Stears

Cato pawb! Dyma ddiod hawdd ei hyfed! Mae’n llond can o berffeithrwydd gan gwmni kombucha Counter Culture ym Mryste.

Diod goeth yw TXT in a Bottle heb fod yn ymhongar. Mae’r holl flasau’n cydweithio i greu diod sy’n gain, adfywiol a blasus ar yr un pryd. Mae sawr miniog yn y car ond heb fod wrth y llyw. Mae e yn y sedd gefn wrth i’r nodau ffrwythus yrru’r cerbyd, a blasau sbeisiog Nadoligaidd y sinamon sy’n dal y map. Mae digon o gyffro mewn can bach, ond dyw’r holl elfennau ddim yn gwrthdaro – mae popeth yn mynd tua’r un cyfeiriad.

Mae hi damaid bach fel seidr poeth, a gallaf i ei gweld hi’n gwneud y tro ar achlysuron pan fyddech chi fel arfer yn cael diod boeth. Neu gallai gymryd lle rhai gwinoedd coch, fel Malbec. Yn sicr, gallaf i ei gweld yn cyd-fynd yn dda efo caws lled-galed neu gaws glas neu gig coch neu gig hallt. Os ydych chi’n rhoi bwrdd charcuterie at ei gilydd, gallai’r ddiod yma fod yn gyfeiliant da iddo. Neu gallech chi fachu can a’i yfed ar ei phen ei hun. Fyddwch chi ddim yn difaru.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​