Nunc Jun-Kombucha: Chilli Cha Cha

English | Cymraeg

Ein barn ar Nunc Jun-Kombucha: Chilli Cha Cha.

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 15

Dyma adolygiad gwadd gan un o’n Lleisiau Lleol.

Sefydlwyd Nunc yn 2020 gan Andrew a Diana, gan fwriadu creu diodydd heb gemegion nac ychwanegion artiffisial.

Gwenynwyr ydyn nhw, felly does ryfedd eu bod nhw wedi dechrau gyda mêl. Mae’r arogl yn ffres ac apelgar. Mae’r blas yn ysgafn, melys, ac adfywiol, gyda mymryn o swigod. Gallwch chi flasu’r ffrwythau: mango a phinafal, ynghyd â thipyn o sinsir. Dyw blas y tsili ddim yn ormodol, ond gallwch chi ei flasu fe’n fwyfwy wrth i chi yfed. Os ydych chi’n hoff o ddiodydd tanllyd fel cwrw sinsir, byddwch chi’n hoffi hon!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​