Amplify Zing and Zest

English | Cymraeg

Ein barn ar Amplify Zing and Zest

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 13
Sgôr: 3 o 5

Y peth cyntaf i’w ddweud am Amplify yw mai diod wych yr olwg yw hi. Cafodd y label drawiadol ei dylunio mewn glas tywyll gan yr arlunydd Sophie Abbott ac mae’n ddiwyg sy’n tynnu’ch llygad yn syth wrth i chi bori’r silffoedd.

Mae gan y ddiod ei hunan arogl orenau ac mae’r blas yn gymysgedd o sitrws gyda jinseng, meryw a lemonwellt. Mae hi wedi ennill cwpl o wobrau ond hefyd ychydig o adolygiadau gwael. Mae’n ddrwg gennym ddweud nad oedd ein panel profi wrth eu bodd. Mae’r broliant yn addo blasau beiddgar, ond doedden nhw ddim yn arbennig o feiddgar i ni. Ond, fel pob tro, bydd rhaid i chi benderfynu drosoch chi’ch hunan.

Cawson ni botelaid ohoni yn Tesco.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​