Captain Morgan Spiced Gold 0.0

English | Cymraeg

Ein barn ar Captain Morgan Spiced Gold 0.0.

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob 100ml: 2

Mae Captain Morgan yn un o wirodydd mwyaf poblogaidd y byd, gan un o gwmnïau gwirodydd mwyaf y byd. Mae Diageo eisoes wedi mentro i’r farchnad ddi-alcohol gyda dwy jin 0.0% Gordon’s a Tanqueray, ac mae’r rym sbeisiog newydd yma yn awgrymu eu bod nhw o ddifri am gynnig diodydd llai alcoholaidd.

Diod hyfryd yr olwg yw hon, gyda lliw euraidd ac arogl sbeisiog mwyn a chydbwysedd da rhwng gwres a melystra yn y blas. Yn wahanol i’r rhan fwyaf o wirodydd di-alcohol mae hi’n ddymunol ei hyfed ar ei phen ei hun, ond gorau oll ei chymysgu â rhywbeth pefriog. Cawson ni hi gyda chola ond byddai’n werth arbrofi trwy roi cynnig ar goctels eraill gyda’r cynhwysyn hynod ddefnyddiol yma!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​