Pentire Adrift

English | Cymraeg

Ein barn ar Pentire Adrift.

Sgôr:

5/5

Cryfder:0%

Calorïau ymhob 100ml: wrthi’n aros gwybodaeth

Mae cryn nifer o ddiodydd di-alcohol ar gael erbyn hyn sydd i fod i gymryd lle jin mewn coctels ac ati. Mae eu safon yn amrywio, ond mae’r ddiod ddeniadol yma ar ei hennill am beidio â cheisio blasu fel jin o gwbl. Yn lle meryw, blasau ffres lemwn, samffir a saets sy'n dod drwodd yn bennaf – a blasau hyfryd o lân ac ysgafn ydyn nhw. Wedi'i chymysgu gyda thonic, mae hi’n ddiod hafaidd berffaith. Un o ddiodydd drutaf ei chategori yw hi, ond mae’n werth rhoi cynnig arni.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​