New London Light Midnight Sun

English | Cymraeg

Ein barn ar New London Light Midnight Sun

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.0%

Calorïau ymhob: 53

O ddyfnderoedd Dyfnaint, daw’r ddiod writgoch yma, llawn aeron, pîn a gwymon ac wedi’i hysbrydoli gan flasau Llychlyn. Mae’r gwneuthurwyr yn cydweithio â Chymdeithas Cadwraeth y Môr. Felly yn ogystal â bod yn llesol i’ch afu, mae 1% o bris y ddiod yn mynd at brosiect i adfer gwair y môr.

Mae’n gwrido fel awgrym o heulwen, gyda golwg debyg i jin binc, gan eich gwahodd i mewn fel gwin rhosliw Profens. Mae ganddi rywfaint o ysbryd Gwlad yr Iâ, fel pe na bai’r haul byth yn machlud – fel dywed yr enw. Mae’r blas yn awchus a phuprog – cymysgedd ffrwythus ond cynnil, llai melys, mwy aromatig, a dymunol iawn fel jin hafaidd ffansi.

Mae diodydd di-alcohol mor dda y dyddiau hyn nes ei bod yn anodd gweld y gwahaniaeth rhyngddyn nhw â rhai mwy meddwol. Pan fydd yr haul yn tywynnu, mae pawb yn meddwl am ddiodydd yn yr ardd. Gyda diodydd fel hon, gallwch fwrw’n syth ymlaen.

Dwi WRTH FY MODD efo’r ddiod yma. Marciau llawn: 5 allan o 5.

Dyma adolygiad gan ein hawdur gwadd Adela Meer, sydd i’w gael ar Instagram @adelanotequila

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​