Asahi Super Dry 0.0%

English | Cymraeg

Ein barn ar Asahi Super Dry 0.0%.

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0%

Calorïau ymhob 100ml: 25

Sefydlwyd bragdy Asahi yn Osaka yn ôl yn 1889. Ers hynny, mae eu cwrw Super Dry wedi dod yn un o hoff rai Japan, yn ogystal â bod yn hoff gwrw Japaneaidd y wlad hon. Mae’n adnabyddus am ei flas cras, sych. Wedi’i lansio yn 2023, mae Asahi Super Dry 0.0% i fod i ail-greu’r fath flas heb ddim alcohol.

Sut mae e? Ddim yn wael o gwbl. Mae’n gwrw melyn dymunol, gyda mymryn o flas radler neu siandi, ond mae’n cael ei achub rhag bod yn rhy felys gan is-flas chwerw. Wedi’i oeri’n dda, bydd e’n torri syched, yn sicr.

Hwn yw Cwrw Swyddogol Cwpan Rygbi’r Byd yn 2023 – y tro cyntaf i gwrw di-alcohol dderbyn y fath anrhydedd, o bosib. Mae’n fwy na thebyg fod hynny oherwydd bod y twrnamaint yn digwydd yn Ffrainc, lle na chewch chi werthu diodydd alcoholaidd mewn stadia chwaraeon.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​