Asda Extra Special Sparkling Sauvignon Blanc

English | Cymraeg

Ein barn ar Asda Extra Special Sparkling Sauvignon Blanc

Sgôr:

4/5

Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob gwydraid 250ml: 103 (41 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Fel pob un o’r siopau bwyd mawrion, mae Asda yn ehangu o hyd eu detholiad o ddiodydd di-alcohol, gan gynnwys y gwin pefriog dymunol yma. Cwmni Felix Solis yng nghanolbarth Sbaen sydd wedi’i greu – gwindy teuluol sy’n mynd ers yr 1970au.

Gwin digon bywiog yw e, heb fod yn rhy felys, ac mae rhyw frathiad lemwn eithaf neis iddo hefyd. Os purydd yn chwilio am flas Sauvignon Blanc go-iawn ydych chi, efallai cewch eich siomi – mae’n debycach i Chardonnay mewn gwirionedd. Ond os ydych chi mond yn chwilio am win gwyn derbyniol, mae rhai llawer gwaeth na hwn i’w cael.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​