Cryfder: 0.5%
Calorïau per 100ml: 29
Fel llawer cwrw di-alcohol gan fragwr annibynnol, mae stori bersonol dda tu ôl i Collider. Roedd sylfaenydd y cwmni, Harry, yn gweithio am flynyddoedd yn y diwydiant gwin. Ond wedi syrffedu ar yfed alcohol, dechreuodd e feddwl am greu diodydd amgen. Mae’r cwrw eirin gwlanog yma yn un o’r canlyniadau, ynghyd â chwrw melyn a chwrw gwelw.
Dyma gwrw ysgafn gyda lliw euraidd cynnes. Mae blas yr eirin gwlanog yn glir ond heb fod yn ormodol, a dydy melystra’r ffrwyth ddim yn llethu’r hopys a’r barlys. Yn sicr, dyma gwrw gyda ffrwyth, nid diod ffrwythau.
Mae e wedi’i wneud â L-Theanine, sy’n dod o de; madarch Pigau Barfog; a gwreiddiau ashwagandha. Mae’r dystiolaeth dros fuddion iechyd y cynhwysion yma yn destun trafod o hyd, ond mae ambell astudiaeth wedi dangos eu bod nhw yn gallu gwella cwsg a hybu lles.