ABV: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 13
Mae cwrw trwm a thywyll fel hwn yn anodd ei wneud yn dda heb ddiferyn o alcohol, ond mae hwn wedi’i wneud yn arbennig o dda.
Mae ganddo liw fel cnau ac arogl cnau cyll. Mae’n llawn brag gyda thamaid bach o chwerwder, a mymryn o sbeisiau Nadoligaidd yn y cefndir. Yn ein tyb ni, byddai’n cyd-fynd yn dda efo caws cryf, neu fins peis, os dyna’r adeg o’r flwyddyn.
Mae’n cael ei werthu o dan label M&S, ond mae e wedi’i fragu yn Southwold, sy’n awgrymu mai Adnams sydd wedi ei greu – bragdy sydd eisoes wedi ennill ei blwyf â’i Ghost Ship di-alcohol .