Calorïau ymhob 100ml: 18
5/5
Yn ôl sylfaenydd y cwmni, Harry, dechreuodd Collider oherwydd gwrthdrawiad rhwng ei gariad at gwrw da a’i awydd i osgoi effeithiau niweidiol alcohol.
Mae’r cwrw gwelw yma yn un o dri chwrw gan Collider, ac mae’n debyg mai dyma ein ffefryn ni. Fel pob un o ddiodydd y cwmni, mae’n dod mewn can trwsiadus gyda diwyg geometrig diddorol. Diod fywiog wrth ei thywallt yw hi, gyda lliw euraidd golau. Mae arogl a blas grawnffrwyth hyfryd iawn, ac os ydych chi’n dwli ar gwrw gwelw gyda sitrws, dyma’r ddiod i chi. Dyma un o’r cyrfau crefftus gorau gawson ni erioed.