Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 47
English | Cymraeg
Ein barn ar Asda Red Berries Botanical Drink.
Sgôr:
4/5
Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 47
Mae Asda wedi mentro i fyd gwirodydd di-alcohol o’r blaen a doedd y canlyniadau ddim at ddant pawb. Mae’r ddiod newydd yma gydag aeron coch – un o bedair o ddiodydd cyffelyb sydd ar gael yn y siop yma – yn ddiod gwbl wahanol, ac roedden ni wrth ein bodd.
Dyma ddiod hafaidd braf, gyda mefus Lloegr a mafon yr Alban, a gyda mymryn bach o awch iddi. Mae hi fymryn yn felys ond mae’r melystra yn cael ei gydbwyso’n dda wrth ei chymysgu gyda thonic.
Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.