Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 36
English | Cymraeg
Ein barn ar Asda Rhubarb and Ginger Botanical Drink.
Sgôr:
4/5
Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 36
Un o’r cyfuniadau mwyaf poblogaidd ar gyfer gwneud jin ffrwythus yw rhiwbob a sinsir. Braf iawn, felly, yw gweld fersiwn di-alcohol ar gael. Dyma un o bedair gwirod ddi-alcohol sy’n cael eu cynnig gan un o hoff siopau’r wlad, ac mae’r ymateb ar wefan y cwmni wedi bod yn eithaf brwd.
Mae’r blasau’r rhiwbob a sinsir yn hyfryd o naturiol, ac mae hefyd fymryn o feryw. Os ydych chi’n hoffi jin ffrwythus ond yn awyddus i yfed llai o alcohol, efallai mai dyma’r ddiod i chi.
Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.