Athletic Brewing Run Wild

English | Cymraeg

Ein barn ar Athletic Brewing Run Wild

Sgôr:

4/5

Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob can: 70 (19 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Pan sefydlodd yr Americanwyr John Walker a Bill Shufelt y Cwmni Bragu Athletic yn 2017 roedd gyda nhw amcan clodwiw, sef “cynnwys rhan fawr o’r boblogaeth o oedolion yn y gymuned gwrw crefftus” – yn benodol rhan fawr sydd ddim yn yfed alcohol. I’r perwyl yna, maen nhw wedi creu casgliad o gyrfau gyda chryfder o lai na 0.5% ABV. Mae dau o’r rheini bellach ar gael yr ochr yma i Fôr Iwerydd, gan gynnwys hwn: Run Wild IPA. (Mae rhedeg a ffitrwydd yn themâu mawr ym mywydau’r bragwyr heini hyn!)

Fel pob un o’u diodydd, mae hwn wedi’i gyflwyno’n wych: mae Run Wild ar werth mewn pecyn o chwe chan ac arnyn nhw ddelweddau cynnil o dirweddau mawr America. Mae i’r cwrw liw caramel hyfryd ac mae e fymryn yn gymylog. Mae cydbwysedd da rhwng chwerwder a melystra ac mae e ar ei orau wedi ei hoeri’n dda.

Mae’r holl wybodaeth am beth sydd yn y ddiod i’w gweld yn glir iawn ar y can, gan gynnig esiampl a gwers i sawl bragwr arall!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​