Cryfder: 0.05%
Calorïau ymhob potelaid: 39 (14 ymhob 100ml)
Sgôr: 1 o 5
Diolch i rwydwaith dosbarthu rhagorol ABInBev, Becks Blue yw’r cwrw di-alcohol byddwch chi’n ei weld gan fwyaf yn oergell y dafarn ac ar silffoedd yr holl brif archfarchnadoedd. Yn ôl ystadegau diweddar, y brand yma yw 65% o’r cwrw di-alcohol neu brin-ei-alcohol sy’n cael ei werthu mewn tafarndai a barrau yn y wlad yma. Mae’n cael ei yfed o Fôn i Fynwy gan lwyrymwrthodwyr, gyrwyr sobr a phobl sy’n codi’n gynnar bore trannoeth, ond nid bob tro o’u gwirfodd.
Mae’r bragwyr yn addo “blas Becks llawn, gyda mwynhad di-alcohol”, gan fynnu nad yw’n fater o ddewis “y naill neu’r llall”. Rydyn ni’n cymryd ’bod nhw’n sôn am ddewis rhwng cryfder a blas. Yn anffodus, dyna’n union wnaethon nhw, yn ein tyb ni.
Dyw union fanylion y broses fragu ddim yn hawdd eu cael, ond mae ar hwn flas cwrw a gafodd ei ddadalcoholeiddio, ac mae’n gadael adflas nad yw’n gwbl bleserus hefyd. Efallai ei fod wedi’i fragu yn unol â’r Reinheitsgebot o 1516 (deddf Ganoloesol yr Almaen sy’n dweud beth yw cynhwysion cwrw), ond yn ein tyb ni mae angen tipyn o waith ar y rysáit o hyd.