Belle & Co. Sparkling White and Rosé

English | Cymraeg

Ein Barn Ar Belle & Co. Sparkling White and Rosé

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob gwydryn 250ml: 55 (22 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Cafodd y diodydd Belle & Co. yma eu lansio yn 2018 o dan yr enw Bees Knees. Maen nhw wedi cael eu hailwampio a’u hail-enwi ers hynny, ac felly dyma ni yn eu hadolygu’r eildro yn 2022.

Maen nhw’n rhai o’r ychydig ddiodydd cwbl ddi-alcohol gewch chi ymhlith y gwinoedd wrth siopa. Maen nhw felly’n addas i’r rhai sydd am lwyrymwrthod (am ba reswm bynnag). Maen nhw wedi’u creu o sudd grawnwin sydd wedi eplesu ond nid i’r fath raddau nes troi’n alcoholaidd. Yn wahanol i nifer o’r gwinoedd ar y tudalennau yma, dydyn nhw ddim wedi cael eu creu fel diodydd alcoholaidd ac wedyn cael eu dad-alcoholeiddio – proses sydd weithiau’n tynnu llawer mwy na’r alcohol allan o’r gwin. Fel Echo Falls Infusion, ychwanegwyd atyn nhw hefyd flas te gwyrdd, sy’n elfen ddiddorol, annisgwyl a dymunol.

Mae dwy ddiod gan y cwmni: gwin gwyn pefriog ac un rhosliw pefriog. Diod gwelw’r olwg yw’r gwyn gyda mwy o flas afalau na grawnwin ond gyda brathiad miniog braf ac awgrym neis o de gwyrdd. Mae gan y gwin gwridog liw pinc dwfn a blas rosé sych a ffrwythus. Maen nhw ill dwy yn sychach nag oedden nhw pan gawson nhw yn 2018 – pan oedden nhw’n rhy felys o dipyn – ac maen nhw ill dwy yn werth rhoi cynnig arnyn nhw, yn sicr.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​